0
Mae dyn 37 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio cyfreithwraig yn Abertawe ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal yr Hafod brynhawn dydd Mawrth, yn dilyn adroddiadau bod dyn yn galw am gymorth.
Mae Dean Marcus Jones wedi’i gyhuddo o lofruddio Alison Jane Farr-Davies, oedd yn gweithio yn ardal Bournemouth.
Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r digwyddiad, yn enwedig nifer o bobol oedd wedi ffonio’r heddlu ar ôl gweld dyn yn y stryd.
Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan rywun a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal ddydd Sul yn ystod y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Chelsea, gan y gallai fod yn berthnasol i’r ymchwiliad.
Bydd Jones yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth (Medi 20).