Mae Tim Farron wedi galw ar gefnogwyr Llafur a’r Ceidwadwyr sydd wedi’u dadrithio i symud draw at y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn trechu pleidiau eithafol ar yr asgell dde a’r asgell chwith.

Ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd flynyddol y blaid yn Brighton, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol fod y Ceidwadwyr yn “haerllug” a Llafur yn “amherthnasol”.

“Ar draws gwleidyddiaeth Prydain, ry’n ni nawr yn gweld pobol boblyddol ar bellafoedd yr adain chwith a’r adain dde yn cael gafael ar eu pleidiau.

“Mae yna bobol sy’n rhyddfrydol o fewn y Blaid Lafur a phobol yn y Blaid Geidwadol fydd yn teimlo’n gynyddol anesmwyth ynghylch cyfeiriad y blaid.

“Fy nghynnig syml i’r rhyddfrydwyr hynny yn y pleidiau eraill yw hyn: ‘Wyddoch chi beth – efallai ei bod hi’n bryd ymuno â phlaid ryddfrydol?”

Mynnodd Farron fod angen ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd gan ddweud nad oedd pobol Prydain wedi rhoi caniatâd ar gyfer y trafodaethau.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cynnig cyflwyno treth ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, a fyddai’n cael ei ystyried gan banel o arbenigwyr iechyd.

Y bwriad yw codi’r dreth o gyflogau gweithwyr.

Fe fyddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal i drafod y cynnig, ac adroddiad yn cael ei gyflwyno ymhen chwe mis.

Hefyd ar yr agenda ar gyfer y gynhadledd mae llacio deddfau puteiniaeth ac israddio arfau niwclear Prydain.