Mae Heddlu Gwent yn chwilio am Rhos Williams, dyn 30 oed o ardal Caerdydd.
Maen nhw’n awyddus i siarad gydag ef yn dilyn lladrad yng Nghasnewydd ar y pedwerydd o Orffennaf eleni.
Mae gan Rhos Williams gysylltiadau gyda Chasnewydd a’r Fenni.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 a dyfynnu’r log 39 04/07/16.