Diane James

Diane James yw arweinydd newydd UKIP, ar ôl sicrhau miloedd yn fwy o bleidleisiau na’r pedwar ymgeisydd arall.

Bydd yn llenwi esgidiau Nigel Farage, ar ôl iddo gyhoeddi ei fwriad i gamu o’r neilltu ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth 17,970 o bobol bleidleisio i gyd a chafodd Diane James 8,451 a 47% o’r bleidlais, a olygodd ei bod wedi ennill yn hawdd.

Dywedodd ei bod yn “fraint anferth” i arwain y blaid ac y byddai’n cadw llygad barcud ar drafodaethau Brexit.

Yn ystod ei haraith gyntaf fel arweinydd, fe wnaeth hi hefyd gyfeirio at bobol a bleidleisiodd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd fel ‘Remainiacs’.

Hefyd fe gyhuddodd y Prif Weinidog, Theresa May, o ddwyn llawer o bolisïau UKIP, gan ei galw yn ‘Magpie May’.