Kisrty Williams yw unig Aeloda Cynulliad y Lib dems
Mae’n debyg bod haul ar fryn i’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi iddyn nhw ennill mewn sawl isetholiad cyngor ers etholiadau lleol mis Mai.

Mae’n newyddion da i’r blaid wrth i’w haelodau ddod ynghyd yn ei chynhadledd yn Brighton yfory.

Fe gafodd y blaid ei llorio yn etholiadau San Steffan yn 2015, a’r Cynulliad yn 2016.

Llwyddodd y Democratiaid i ddwyn sedd Llafur yn yr isetholiad diwethaf yn Swydd Derby, ar ôl i’r cynghorydd Llafur ymddiswyddo yn dilyn honiadau ei fod wedi brathu trwyn rhywun.

Hyd yn hyn, mae’n ddarlun cymysg i’r pleidiau eraill, gyda’r Ceidwadwyr yn colli 10 sedd a Llafur yn colli naw.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill 13, cadw chwech a heb golli’r un sedd ers mis Mai.

Fe wnaeth Plaid Cymru gadw dwy sedd, enillodd Gwyrddion a’r SNP un, gyda’r SNP hefyd yn colli un i Lafur, gyda’i hymgeisydd yn dad i’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon, Robin Sturgeon.

Enillodd UKIP bedair sedd, collodd tair a chadwodd ddwy.