Angela Merkel
Mae 27 o arweinwyr y gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd yn cwrdd yn Slofacia heddiw, a hynny heb Brif Weinidog gwledydd Prydain Theresa May.

Maen nhw’n cwrdd ym mhrifddinas y wlad a’r gobaith yw creu “Bratislava roadmap” ar gyfer dyfodol yr Undeb sy’n wynebu sawl her yn sgîl y bleidlais Brexit a hefyd pryderon am yr economi a nifer y mewnfudwyr yn dod o Affrica.

Mae Canghellor Yr Almaen wedi dweud bod y sefyllfa yn ddifrifol ac mae’n galw am gydweithio.

“Rydw i’n gobeithio bod y bydd Bratislava yn dangos ein bod am weithio gyda’n gilydd, ac ein bod am ddatrys y problemau sy’n bodoli yn Ewrop,” meddai Angela Merkel.

Yn ôl Arlywydd Ffrainc mae angen i’r Undeb Ewropeaidd ganolbwyntio ar dri pheth: diogelwch, creu gwaith a rhoi gobaith i bobol ifanc.

Ond mae argyfwng y ffoaduriaid wedi bod yn bwnc llosg yn y cwrdd yn Slofacia, gyda gwledydd yn y dwyrain – Hwngari, Slofacia, Y Weriniaeth Tsiec ac eraill – yn gwrthwynebu cynigion pencadlys yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ynghylch sut i ddatrys y sefyllfa.

Yn ôl Prif Weinidog Hwngari ni ddylid goddef mwy o “driciau cyfreithiol” er mwyn atal gwledydd sofran rhag penderfynu ar sut i ddelio gyda mewnfudwyr.

Mae Victor Orban yn gweld bai ar Senedd a Chomisiwn yr Undeb Ewropeaidd am droi cwotas cartrefu ffoaduriaid yn rhai gorfodol, a hynny ar ôl i arweinwyr yr Undeb bleidleisio am gwotas gwirfoddol.