Neil McEvoy

Mae Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i ymddiswyddo yn dilyn ffrae fawr tros Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd.

Yn ôl Neil McEvoy, mae Carwyn Jones wedi “camarwain” y Senedd, ac fe ddylai’r pwyllgor sy’n craffu ar y Prif Weinidog ei gynghori i ymddiswyddo.

Yng nghyfarfod llawn cyntaf y Cynulliad dydd Mawrth wedi gwyliau’r haf, fe ofynnodd Neil McEvoy i Carwyn Jones wneud datganiad am gynlluniau datblygu lleol.

Fe’i cyhuddodd bryd hynny hefyd o ddweud wrth bapur y South Wales Echo yn 2012, y dylai Caerdydd adeiladu degau o filoedd o dai newydd.

Dywedodd Carwyn Jones wrtho nad oedd e byth yn gwneud unrhyw sylw, ar unrhyw Gynllun Datblygiad Lleol, unrhyw le yng Nghymru.

“Chwerthinllyd”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud heddiw bod y sylwadau’n “chwerthinllyd”, a’i fod wedi dweud y dylai Caerdydd gael Gynllun Datblygu Lleol.

“Dylai hynny fod yn bwynt amlwg, gan fod gofyn i bob cyngor yng Nghymru gael Cynllun Datblygu Lleol,” meddai.

“Wnaeth e ddim sylw am gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol hwnnw, mae hynny’n fater i awdurdodau lleol. Waeth faint o weithiau y mae’r gwahaniaeth hynny’n cael ei wneud, mae Mr McEvoy yn ei anwybyddu.”

Fe wnaeth golygydd y papur ddweud yn 2012 eu bod yn anghytuno â sylwadau’r Prif Weinidog, yn dilyn cyfweliad â Carwyn Jones, oedd yn nodi ei fod wedi dweud ei bod yn “rhyfeddol” nad oedd gan Gaerdydd gynllun datblygu lleol.

Cyhuddodd Carwyn Jones, Neil McEvoy o roi’r stori yn y papur, ond mae Peter Law, newyddiadurwr a ysgrifennodd yr erthygl wedi cadarnhau drwy Twitter bod y Prif Weinidog wedi dweud hynny.

“Mae’r defnydd o ddyfynodau yn dangos mai ei sylwadau ef ydyn nhw, mewn lansiad Llafur Caerdydd,” meddai.

McEvoy v Carwyn

Mae’r ffrae rhwng Neil McEvoy, cyn dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Blaid Lafur yn lleol wedi bod yn berwi ers blynyddoedd.

Yn ôl y cynghorydd o Gaerdydd, mae’r Cynllun Datblygu Lleol sydd bellach wedi’i gymeradwyo yn fygythiad i fannau gwyrdd y brifddinas.

“Mae’r Prif Weinidog yn parhau i sarhau a dweud celwyddau,” meddai Neil McEvoy. “Mae eisoes wedi fy sarhau tair gwaith ar y mater hwn pan rydw i wedi gofyn iddo amdano, gan gynnwys dweud wrthyf fy mod yn byw mewn byd ffantasi.

“Pwy fydd e’n ei sarhau nesaf cyn iddo ddweud y gwir wrth bobol Caerdydd bod Llafur wedi bwriadu rhoi concrid dros fannau gwyrdd Caerdydd erioed?

“Os oedd y newyddiadurwr wedi argraffu pethau doedd y Prif Weinidog heb eu dweud, yna pam nad oedd ei swyddfa wedi gwneud cwyn swyddogol drwy swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru?

“Fel dw i’n deall, gafodd hyn fyth ei wneud.”

Galw am ymddiswyddiad

Yn ôl Neil McEvoy, mae’r Prif Weinidog wedi “dweud celwyddau” wrth Aelodau Cynulliad a bod hynny’n fater o ymddiswyddo.

“Byddaf yn ysgrifennu at Bwyllgor y Cynulliad sy’n craffu ar ymddygiad y Prif Weinidog a dw i’n disgwyl iddo gael ei ddal i gyfrif,” ychwanegodd.

“Yn fy marn i, dylai ymddiswyddo.”

Doedd Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog ddim am wneud sylw.