Mae Amgueddfa Cymru wedi prynu pâr o heyrn tân 300 oed a oedd yn eiddo i frenin Lloegr “ar gyfer y genedl”.
Mae’r pryniad, gydag arian o Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (NHMF), y Gronfa Gelf, Cwmni Goldsmiths a’r Gymdeithas Arian, yn golygu y bydd yr heyrn – yr enghraifft orau o’u math sydd wedi goroesi – yn aros yng ngwledydd Prydain, yn hytrach na chael eu hallforio.
Cafodd yr heyrn arian, sy’n dyddio’n ôl i gyfnod Siarl II rhwng 1680-81, eu gwneud i gynnal coed oedd yn llosgi mewn llefydd tân agored ac maen nhw’n dangos pwysigrwydd dodrefn lle tân y cyfnod. Roedden nhw’n eitemau moethus, yn cael eu gweld fel datganiad o gyfoeth a ffasiwn.
Mae’r heyrn wedi’u haddurno gyda ffigurau Cleopatra a Lucretia, menywod eiconig yn hanes Rhufain, ac mae arfbais y Llyngesydd Edward Russell a’i ail wraig y Fonesig Margaret Russell wedi’i engrafu arnyn nhw.
“Rydan ni’n ddiolchgar iawn i Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, Cwmni Goldsmiths a’r Gymdeithas Arian, yn ogystal â nifer o roddwyr preifat wnaeth wneud y caffaeliad hwn yn bosibl drwy eu haelioni,” meddai Andrew Renton, Ceidwad Celf, Amgueddfa Cymru.
“Mae’r darnau prin hyn yn cryfhau ein casgliad eithriadol o arian a chelfyddyd gymhwysol yma yn Amgueddfa Cymru. Maent yn enghreifftiau godidog o ddylunio diwedd y 17eg ganrif ac mewn cyflwr anhygoel o dda – darlun perffaith o fyw’n ffasiynol yn ystod teyrnasiad Siarl II.
“Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu eu caffael a thrwy hynny eu cadw yn y Deyrnas Unedig.”