Fe fydd heddlu arfog i’w gweld ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, wrth i Heddlu Dyfed-Powys gynnal diwrnod o ymarferion gyda’u cydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.

Bydd yr ymarfer yn diwgydd yn un o neuaddau myfyrwyr Cwrt Mawr ar ben uchaf campws Penglais, lle bydd 20 o “wystlon” yn cael eu dal yn gaeth rhwng 10yb a 3yp. Gwaith y gwasanaethau brys a’r Brifysgol fydd rhoi ar waith y cynlluniau sydd ganddyn nhw ar gyfer ymateb i ddigwyddiad difrifol.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dewis safle’r Brifysgol am ei fod yn cynnig lleoliad hyfforddi diogel i bawb sy’n cymryd rhan tra ar yr un pryd yn cynnig cyfres o heriau unigryw,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

“Yn anffodus, mae hyfforddiant o’r fath yn hanfodol i sicrhau bod pob sefydliad yn y sefyllfa gorau posib i ymateb i argyfwng mewn unrhyw leoliad sy’n rhan o ddalgylch yr heddlu.”