Atomfa Hinkley Point

Mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi ei sêl bendith i adeiladu gorsaf niwcliar Hinkley Point C, ond fod hynny gyda amodau na fydd yr Orsaf yn newid dwylo, heb ganiatad y Llywodraeth.

Fe ryddhaodd y Llywodraeth ddatganiad yn cyhoeddi’r penderfyniad, “Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o brosiect Hinkley Point C, a chytundeb wedi adolygu gan Gwmni EDF, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu i fwrw ymlaen gyda orsaf bwer niwcliar gyntaf mewn cenhedlaeth.”

“Serch hynny, fe fydd gweinidogion yn gosod fframwaith gyfreithiol i fuddsoddiad tramor yn y dyfodol yn isadeiledd allweddol Prydain, a fydd yn cynnwys ynni niwcliar ac fe fydd hynny yn digwydd ar ôl Hinkley.”

Mesurau

Dywedodd yr Ysgrifennydd Strategaeth Ynni a Busnes Greg Clark, “Gan ein bod wedi adolygu’r cynnig yn gynhwysfawr, yr ydym am gyflwyno nifer o fesurau i wella diogelwch, gan sicrhau na ellir Hinkley newid dwylo, heb ganiatad y Llywodraeth.”

Wrth ymateb, dywedodd Justin Bowden, ar ran Undeb y GMB, “Mae caniatau adeiladu Hinkley yn allweddol er mwyn llenwi’r bwlch yn y twll sy’n ehangu er mwyn cyflenwi anghenion ynni gwledydd Prydain.”

Fe fydd grwp ymgyrchu Greenpeace yn cyflwyno deiseb gyda 300,000 o enwau yn gwrthwynebu’r cynllun ac maent yn honni fod y gefnogaeth ymhlith y cyhoedd wedi plymio ac yn galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi mewn ynni adnewyddol.

Nid oedd y Llywodraeth yn barod i wneud sylw am yr honiadau, gyda llefarydd yn cyfeirio at ddiwedd Medi fel y dyddiad i gyhoeddi’r penderfyniad.

Mae’n debyg y bydd Theresa May yn barod i roi ei sêl bendith i adeiladu gorsaf niwcliar Hinkley Point C, ond fod hynny gyda amodau.

Fe ddywedodd Downing Street yn wreiddiol na fydd penderfyniad tan ddiwedd mis Medi, ond wrth i Aelodau Seneddol adael am dymor y cynadleddau gwleidyddol, mae disgwyl y bydd yna gyhoeddiad buan.

Wrth ymateb, dywedodd Justin Bowden, ar ran Undeb y GMB, “Mae caniatau adeiladu Hinkley yn allweddol er mwyn llenwi’r bwlch yn y twll sy’n ehangu er mwyn cyflenwi anghenion ynni gwledydd Prydain.”

Oedi 

Yn syth ar ôl ei hethol yn Brif Weinidog Prydain ym mis Mehefin, fe gyhoeddodd Theresa May y byddai’n dal yn ôl cyn gwneud penderfyniad i ddechrau’r gwaith yn Hinkley.