Mae dynes 27 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Brighton wedi’i chyhuddo o gynnau tân bwriadol ac o lofruddio Robert Sadler.

Mae Emma Sadler wedi’i chadw mewn ysbyty, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Ionawr 12, 2017.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Robert Sadler gan y gwasanethau brys oedd yn ymateb i adroddiad o dân mewn ty yn Llanrumney Avenue yn y brifddinas ddydd Sul, Ionawr 10 eleni.

Fe gafodd Emma Sadler, 27 oed, ei harestio’n syth ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac yn ddiweddarach fe gafodd ei throsglwyddo i ofal y gwasanaethau iechyd. Ers hynny, mae hi wedi cael ei chadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.