Carl Sargeant
Cyhoeddodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant heddiw y bydd yr Hawl i Brynu yn cael ei atal dros dro yn Ynys Môn er mwyn sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael ar gyfer y rheiny sydd eu hangen.
Daw’r penderfyniad hwn cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu’r Hawl i Brynu ledled Cymru.
Mae’r Hawl i Brynu yn caniatáu i denantiaid tai cymdeithasol cymwys ledled gwledydd Prydain brynu eu tai sy’n eiddo i gyngor neu gymdeithas dai, gyda disgownt sylweddol. Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi terfyn ar yr hawliau hyn, gan ddiogelu stoc y tai cymdeithasol rhag cael ei lleihau ymhellach.
Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae’r Hawl i Brynu wedi arwain at leihad sylweddol yn stoc y tai cymdeithasol. Rhwng 1981 a 2014, cafodd 138,709 o dai cyngor eu gwerthu – mae hyn yn cyfateb i leihad o 45% o ran y tai cymdeithasol sydd ar gael ers i’r polisi gael ei gyflwyno am y tro cyntaf.
Tai’n mynd i landlordiaid preifat
Mae ymchwil yn awgrymu bod llawer o’r tai hyn yn mynd i’r sector rhentu preifat yn y diwedd ac, o ganlyniad, maent yn ddrutach i bobl eu rhentu, sy’n golygu, mewn rhai achosion, fod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar fudd-dâl tai.
“Rwy’ i wedi cytuno â chais Cyngor Ynys Môn i atal dros dro yr Hawl i Brynu er mwyn eu helpu nhw i ddelio â’r pwysau sydd ar eu tai cymdeithasol ac i sicrhau bod tai ar gael ar gyfer y rheini sydd eu hangen,” meddai Carl Sargeant.
“Er y bydd hyn yn helpu un ardal am gyfnod byr o amser, mae angen i ni fynd i’r afael â’r mater hwn ar gyfer y tymor hir hefyd. Dyna pam y byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu’r Hawl i Brynu yng Nghymru.
“Mae’r Hawl i Brynu yn erydu ein stoc o dai cymdeithasol. Mae’r polisi niweidiol hwn yn rhoi pwysau ymhellach ar ein cyflenwad o dai cymdeithasol ac yn gorfodi llawer o bobl sy’n agored i niwed i aros yn hirach cyn cael cartref.
“Cyflwyno deddfwriaeth i ddod â’r Hawl i Brynu i ben yw’r unig ffordd sicr o atal hyn ac o roi’r hyder i landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn adeiladu mwy o’r tai fforddiadwy y mae eu hangen yng Nghymru.”