Abigail Dunn, Llun: Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi apêl am ferch14 oed o ardal Casnewydd sydd ar goll.

Dywedodd yr heddlu bod  Abigail Dunn, 14, wedi bod ar goll ers tua 5:30yp ar ddydd Sadwrn, 10 Medi ar ôl diflannu o ardal Stryd y Farchnad yng Nghasnewydd.

Mae pryderon cynyddol am y ferch, a’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani  i gysylltu ar 101.

Dywed yr heddlu fod gan Abigail Dunn wallt brown a’i bod yn gwisgo legins du a hwdi du a llwyd pan gafodd ei gweld y tro olaf.