Ty'r Cyffredin Llun: PA
Mae disgwyl i newidiadau sylweddol i etholaethau seneddol yng Nghymru a Lloegr gael eu cyhoeddi yn Nhŷ’r Cyffredin yfory.
Fel rhan o’r cynlluniau, mae bwriad i dorri’r nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru o 40 i 29.
Daw hyn fel rhan o gynllun ehangach i dorri’r nifer ar draws Prydain o 650 i 600, sy’n golygu toriad o 533 i 501 yn Lloegr, 59 i 53 yn yr Alban a 18 i 17 yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Gogledd Iwerddon eisoes wedi cyhoeddi newidiadau i’w ffiniau etholaethau’r wythnos diwethaf, ac mae disgwyl i’r Alban wneud hynny erbyn diwedd Hydref.
‘Effeithio ar ardaloedd Llafur’
Bwriad y cynllun yw adrefnu’r ffiniau etholaethol, a’u gweithredu erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf sydd i’w ddisgwyl yn 2020.
Ac mae disgwyl i’r toriadau yng Nghymru a Lloegr effeithio fwyaf ar ardaloedd lle mae Llafur yn dominyddu, yn fwy nag ardaloedd lle mae’r Ceidwadwyr yn gryf.
Bydd y newidiadau’n cael eu trafod yn San Steffan ddydd Mawrth, ond ni fydd modd gwybod eu heffaith yn llawn tan y bydd arbenigwyr wedi dadansoddi cynigion y comisiynydd ddechrau 2018, cyn cyflwyno’r cynigion yn derfynol erbyn Hydref 2018.