Llun: PA
Mae 48 o bobol wedi’u hanafu mewn ffrwydrad yn nhalaith ddwyreiniol Van yn Nhwrci heddiw, yn ôl swyddogion.

Digwyddodd y ffrwydrad ger pencadlys y blaid lywodraethol AKP yn gynnar y bore yma, a hynny ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl Islamaidd, Eid al-Fitr.

Yn ôl un o asiantaethau newyddion y wlad, mae dau o’r rhai gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.

Maent wedi eu cludo i ysbytai gerllaw gyda’r gwasanaethau tân a heddlu wedi’u hanfon i’r ardal.

Mae Twrci wedi dioddef cyfres o ymosodiadau diweddar sy’n gysylltiedig â Phlaid Gweithwyr Cwrdistan (PKK), ynghyd â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).