Cafodd tri o bobol eu hanafu – un yn ddifrifol – yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Sgiwen nos Sadwrn, ac mae’r heddlu’n apelio am dystion.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 8.05pm, ac fe wnaeth car BMW du foelyd cyn gadael y draffordd rhwng cyffordd 44 a 43.

Cafodd y ffordd ei chau am bedair awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.