Mae dyn 30 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dynes 26 oed yn y Coed Duon ddydd Gwener wedi cael ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Waunllwyn Crescent am oddeutu 4.15 y bore ar Fedi 3.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ag anafiadau difrifol, ac mae hi bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae ymchwiliad Heddlu Gwent yn parhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.