Mae Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, Owen Smith wedi rhybuddio y gallai’r Blaid Lafur ddiflannu pe bai Jeremy Corbyn yn ennill y ras i gadw arweinyddiaeth y blaid.
Mewn cyfweliad â’r Daily Mirror, mynnodd Smith fod ganddo fe’r rhinweddau delfrydol i fod yn arweinydd am ei fod e wedi gorfod brwydro am ei gariad, a ddaeth yn wraig iddo’n ddiweddarach.
Dywedodd Smith am ei ysgol yn Y Barri fod yna “1,200 o fechgyn, tair merch a wnes i fachu Liz”.
“Felly mae’n rhaid bod gyda fi rywbeth amdana’i. Rhaid mai arweinyddiaeth yw hynny.”
Dywedodd fod yn “rhaid” iddo herio Corbyn am fod “Llafur ar fin diflannu fel plaid ddifrifol a byddai hynny’n drychineb i lefydd fel hwn sydd wedi dibynnu arni ers 100 mlynedd”.
Llafur o fudd i Gymru
Fe gyfeiriodd at symud y Bathdy Brenhinol i Lantrisant a ddigwyddodd o dan arweiniad Harold Wilson yn 1967.
“Dim ond pan fo Llafur mewn grym y mae pethau felly’n digwydd. Os ydych chi, fel fi, yn dod o ran yma’r byd a bod gyda chi ffrindiau sy’n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, ry’ch chi’n gwybod yn iawn fod rhaid i chi gael llywodraeth Lafur. A chawn ni un fyth gyda’r arweinyddiaeth bresennol.”
Serch hynny, Jeremy Corbyn yw’r ffefryn i ennill yr etholiad ar Fedi 24.
Ond dywedodd Smith mai “uno’r blaid” fyddai ei flaenoriaeth pe bai yntau’n ennill ymhen pythefnos.
“Yna, yn ail, rhaid i ni fod yn hollol glir lle’r ydyn ni’n mynd i ymosod ar y Torïaid. Ar hyn o bryd maen nhw’n dinistrio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr o flaen ein llygaid.”