'Hyb' Port Talbot
Fe fydd casgliad o safleoedd bysus a chaffi newydd yn cael eu creu ym Mhort Talbot ar ôl i Lywodraeth Cymru roi sêl bendith i gynllun trafnidiaeth gwerth £5.3 miliwn.

Yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Seilwaith Cymru, bydd y cynllun yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, sy’n rhan o ‘weledigaeth’ y llywodraeth ar gyfer Cymru gyfan.

Bydd yr hyn sy’n cael ei alw yn ‘Hyb’ yn cael ei adeiladu ger gorsaf drenau Parkway ac yn cynnwys chwe safle bws, amserlenni bysiau rhyngweithiol, caffi a mannau croesi diogel.

Bydd y cynllun, sydd wedi cael £2.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £2.5 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, hefyd yn golygu y bydd y briffordd yn cael ei hailgyfeirio er mwyn hwyluso traffig.

Pwyso am lein Abertawe

Dywedodd Ken Skates ei fod am weld trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn gwella a’i bod yn “parhau i bwyso” ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod y lein drenau i Abertawe yn cael ei thrydaneiddio.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r swm sylweddol hwn o arian ar gyfer datblygiad cyffrous yng nghalon Port Talbot,” meddai.

“Mae’n hanfodol bod gwelliannau o’r fath i’r seilwaith lleol yn digwydd hefyd ar lefel genedlaethol a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod y lein i Abertawe yn cael ei thrydaneiddio mor fuan â phosib.”

“Yn ogystal â gwella gwasanaethau i Gastell-nedd Port Talbot a’i chymunedau, mae’r gwelliannau hyn yn creu cyfle cyffrous i ddenu rhagor o fuddsoddi.”

‘Hwb economaidd’

Dywedodd y Cynghorydd Ali Thomas OBE, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, “Bydd yr Hyb Trafnidiaeth Integredig newydd yn ddatblygiad allweddol yng Nghastell-nedd Port Talbot wrth inni weithio i wella cysylltiadau a hybu twf economaidd ein cymunedau.”

“Gyda Gorsaf newydd Parkway Port Talbot, bydd yr Hyb yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ar draws y rhanbarth, ar gyfer eu gwaith ac at ddibenion hamdden.  Bydd trigolion a busnesau lleol yn siŵr o groesawu hyn yn fawr.”