Mae rhieni dyn a fu farw dros nos yn ninas Belffast yn galw am ymchwiliad cynhwysfawr a brys wedi i’r Heddlu ddefnyddio chwistrell CS wrth arestio eu mab.
Cafodd Gerard McMahon, o ardal Short Strand o Belffast, ei daro’n wael yn dilyn y digwyddiad yn y ddinas am bump y bore yma.
Roedd Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi ymateb yn wreiddiol i ddyn oedd yn ymddwyn yn dreisgar ar y stryd ac fe ddioddefodd anafiadau wrth gael ei atal.
Mae’r achos wedi cael ei drosglwyddo i swyddfa Ombwdsman yr Heddlu a gadarnhaodd fod chwistrell CS wedi ei ddefnyddio.
Cafodd nwy CS ei greu yn wreiddiol yn labordy’r Llywodraeth yn Porton Down yn y 1950au ac mae’n ddull dadleuol o ffrwyno troseddwyr honedig.