Iris Owens
Mae dyn wedi pledio’n euog i lofruddio ei fam 75 oed yn ei chartref yn Ystrad Mynach, Sir Gaerffili.

Bu farw Iris Owens ym mis Mai’r llynedd.

Fe ymddangosodd ei mab, Robert Owens, 47, yn Llys y Goron Caerdydd heddiw drwy gyswllt fideo o garchar y ddinas.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 31 Hydref.