Mae Canolfan Bedwyr – sy’n datblygu gwasanaethau technoleg ac ymchwil yn y Gymraeg  ym Mhrifysgol Bangor –  yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed eleni.

I nodi’r achlysur bydd y ganolfan yn agor ei drysau’r wythnos nesaf i bobol weld a thrafod datblygiadau diweddaraf eu gwaith.

Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau a chyfleoedd hyfforddi newydd yn ogystal â datblygiadau mewn technoleg lleferydd a chyfieithu.

Yn ddiweddar, mae staff y ganolfan wedi bod yn datblygu prototeip system cwestiwn ac ateb ar gyfrifiadur, tebyg i’r system ‘Siri’ ar I-phone Apple, a fydd yn golygu bod pobol yn gallu siarad Cymraeg gyda’u ffonau a’u cyfrifiaduron.

Yr Athro Bedwyr Lewis Jones

Cafodd y ganolfan ei sefydlu ym mis Awst 1996 ac mae wedi’i henwi ar ôl yr Athro Bedwyr Lewis Jones, a oedd yn adnabyddus fel llais cryf dros y Gymraeg ac fel ysgolhaig yn y Brifysgol.

Roedd hefyd, yn ôl y ganolfan, yn awyddus i rannu ei ddysg gyda’r gymdeithas ehangach, a dyna beth fydd yn cael ei wneud yn y prynhawn i’r cyhoedd.

“O’i dyddiau cynharaf mae’r ganolfan wedi rhoi pwyslais ar rannu ei harbenigeddau a cheisio ymateb i anghenion y byd y tu hwnt i’r Brifysgol,” meddai Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan.

“Mae’n addas felly mai ein digwyddiad cyntaf ar ddechrau blwyddyn o ddathliadau yw prynhawn agored i rannu gwybodaeth a syniadau.”

Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, Is-ganghellor Prifysgol Bangor gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg: “Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchïo yn ei statws fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran y Gymraeg ac yn y ffaith fod hyrwyddo’r Gymraeg yn un o’i phedair nod strategol.

“Mewn sawl ffordd, Canolfan Bedwyr ydy’r pwerdy sy’n tanio’r dyhead hwnnw, a hynny mewn sefydliad lle mae 70% o’r gweithlu yn siarad neu ddysgu Cymraeg erbyn hyn.”

Bydd y prynhawn agored rhwng 1 a 4, dydd Mawrth, 13 Medi yng Nghanolfan Bedwyr, sef Neuadd Dyfrdwy Ffordd y Coleg.