Llys y Goron Abertawe
Mae dyn 33 oed wedi ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio ei gyn-gariad.

Fe ymosododd Luke Jones o Aberdaugleddau ar Natasha Bradbury yn ei fflat yn Hwlffordd yn Sir Benfro ym mis Chwefror.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Natasha Bradbury, 27, wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w hasennau, ei gwddf, ei hymennydd a’i chalon.

Roedd Luke Jones yn gwadu ei llofruddiaeth gan honni ei bod wedi ceisio ymosod arno, a bod hynny wedi gwneud iddi gwympo, gan achosi ei hanafiadau.

Yn y dyddiau cyn y llofruddiaeth, roedd eu perthynas wedi dirywio gyda Natasha Bradbury wedi gofyn i Luke Jones am gael aros yn nhŷ ffrind.

Fe ddywedodd yr erlynydd fod Luke Jones wedi ei churo i farwolaeth ar ôl darganfod  bod Natasha Bradbury wedi bod efo dyn arall ar ôl i’r berthynas orffen.

Sŵn ergydion

Ar noson ei marwolaeth, dywedodd ei chymydog Timothy Down ei fod yn bryderus yn clywed synau yn dod o’r fflat, gyda sŵn ergydion trwm ac fe geisiodd hongian ei ffôn y tu allan i’r ffenest er mwyn recordio’r sŵn.

Yn dedfrydu  Luke Jones i garchar, dywedodd y barnwr Keith Thomas ei fod wedi yn gyfrifol am “ymosodiad creulon a difrifol”.

“Fe wnaethoch chi daflu Natasha o amgylch yr ystafell, ei tharo a’i chicio a thorri bwrdd gwydr drosti wrth iddi orwedd ar y llawr.”

Bydd Luke Jones yn treulio o leiaf 17 mlynedd dan glo.

Yn siarad wedi’r achos, dywedodd teulu Natasha Bradbury  eu bod wedi torri eu calonnau o ganlyniad i’w marwolaeth.