Angharad Tomos
Mae hawlio cyfrifoldeb am weithred yn erbyn y sefydliad yn rhan o egwyddor y gweithredu ei hun, meddai’r ymgyrchwraig Angharad Tomos wrth sôn am arwyddocad llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth.

Ac mae’r awdures sydd wedi treulio cyfnodau yn y carchar ei hun ar ôl gweithredu tros ddyfodol yr iaith Gymraeg, yn dweud mai wrth drafod gweithred tri Penyberth y daeth hi ei hun yn ymwybodol o symbol cymryd-y-bai.

Mewn cyfweliad gyda golwg360 80 mlynedd union wedi’r weithred gan Lewis Valentine, D J Williams a Saunders Lewis, mae’n egluro cymaint pwysicach na’r difrodi neu’r llosgi, oedd bod y tri dyn mewn swyddi amlwg ac awdurdodol, wedi mynd at yr awdurdodau a chyfadde’r drosedd, cyn gorfod sefyll yn y doc mewn llys, rhoi tystiolaeth ac ateb cwestiynau yn gyhoeddus.

“Pan mae rhywun yn taro a ddim yn cymryd cyfrifoldeb, mae’n weithred lot mwy bygythiol,” meddai Angharad Tomos, “ond pan mae rhywun yn gweithredu ac yn cymryd cyfrifoldeb, mae’n tynnu’r ofn allan ohoni.

“Felly mae’r ffaith eich bod chi’n fodlon derbyn y cyfrifoldeb a dadlau eich achos, yn gwbwl allweddol.”

Gwrandewch ar y cyfweliad yn llawn, gyda Mared Ifan yn holi Angharad Tomos: