Fe fydd y gwaith o godi wal er mwyn cadw ffoaduriaid draw o’r draffordd yn Calais yn dechrau’n fuan, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Prydain.
Mae’r wal yn rhan o becyn o fesurau diogelwch gwerth £17 miliwn i atal ffoaduriaid rhag croesi’r Sianel mewn lorïau o Ffrainc.
Dywedodd Gweinidog Mewnfudo’r llywodraeth, Robert Goodwill wrth Bwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth fod y gwaith o godi’r wal pedwar metr o uchder ar fin dechrau.
Daw hyn ar ôl i’r gwaith o drwsio ffensys ar hyd y ffin ddod i ben.
Bydd y wal goncrid yn cael ei chodi ar ddwy ochr y ffordd ar gost o £1.9 miliwn, a’r bwriad yw atal ffoaduriaid rhag gosod rhwystrau ar y ffordd er mwyn stopio lorïau.
Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei orffen erbyn diwedd y flwyddyn. Ond mae trigolion lleol yn gwrthwynebu’r cynllun.
Mae cymdeithas gludiant y Road Haulage Association yn dweud y dylid gwario arian trethdalwyr mewn ffordd wahanol, a bod angen canolbwyntio ar oruchwylio’r ffyrdd i mewn i Calais yn hytrach na chodi wal ar y ffin.
Mae Goodwill wedi cyfaddef nad yw e wedi bod i Calais i weld beth sy’n digwydd yno drosto’i hun ers iddo ymgymryd â’i swydd ym mis Gorffennaf.