Côr Bro Myrddin ar ôl canu mewn gwasanaeth yn Ypres
Bu criw o ddisgyblion uwchradd yn swyno’r gynulleidfa mewn gwasanaeth arbennig yn Menin Gate, Ypres yng Ngwlad Belg neithiwr gyda detholiad o ganeuon Cymraeg.
Daw hyn wedi i griw o ddisgyblion Ysgol Gyfun Bro Myrddin gydweithio â gof lleol o sir Gaerfyrddin, Andrew Rowe, i greu pabïau o fetel i’w cyfrannu at gofeb enfawr i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y gofeb yn arddangos un pabi mawr ac yn mesur saith metr o uchder a 12 tunnell, ac o’i chwmpas bydd 2,016 o babïau llai.
Caiff y pabïau llai eu creu gan grefftwyr a gofaint o bob cwr o’r byd, a’r wythnos hon maen nhw’n cynnal cynhadledd fawr yng Ngwlad Belg wrth iddynt dynnu at derfyn y gwaith.
Eu bwriad yw cwblhau’r gofeb erbyn dydd y Cadoediad ar Dachwedd 11, ac fe gaiff ei rhoi wedyn ym mynwent rhyfel Langemark, Gwlad Belg.
‘Pontio rhwng y gwledydd’
“Roedd hi’n anrhydedd fawr i’r disgyblion i gymryd rhan mewn rhywbeth mor gofiadwy â hyn,” meddai Dr Huw Griffiths wrth Golwg360, Athro Hanes Ysgol Bro Myrddin.
“Roedd gweld gofaint o bob rhan o’r byd yn cymryd rhan i greu un gofeb yn wych, ac yn dangos y pontio rhwng y gwledydd,” meddai.
“Roedd e’n brofiad arbennig i’r disgyblion hefyd i gael gwahoddiad gan sefydliad y Last Post i ganu mewn gwasanaeth yn Menin Gate,” meddai wedyn.
“Roedd yr awyrgylch yn anhygoel, ac roedd y plant yn teimlo fel ychydig o sêr wrth i bobl o bob cwr o’r byd ddod i sgwrsio â nhw.”
Yn arwain y côr oedd Pennaeth Cerdd yr ysgol, Meinir Richards, ac mae fideo wedi’i rannu isod o’r disgyblion yn canu yn y gwasanaeth yn Menin Gate, Ypres neithiwr.