Keith Vaz, Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Keith Vaz, wedi ymddiswyddo fel cadeirydd Pwyllgor Materion Cartref Llywodraeth Prydain heddiw.
Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd yr AS Llafur: “Dylai’r rhai sy’n dwyn pobl eraill i gyfrif fod yn atebol eu hunain.”
Roedd datganiad Keith Vaz, 59 oed, wedi’i gylchredeg i’r cyfryngau dan embargo tan yn ddiweddarach heddiw ond cafodd y newydd ei adrodd yn eang ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd disgwyl i’r pwyllgor drafod ei ddyfodol fel Cadeirydd prynhawn ‘ma yn dilyn honiadau iddo dalu am wasanaethau puteiniaid gwrywaidd.
Roedd Keith Vaz wedi bod dan bwysau i roi’r gorau i’w rôl fel cadeirydd y pwyllgor dylanwadol, ac mae hefyd yn wynebu ymchwiliad posib gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd.
Daw hyn yn dilyn honiadau ym mhapur newydd y Sunday Mirror, sy’n honni iddo gwrdd â dau ddyn mewn fflat o’i eiddo yng ngogledd Llundain fis diwethaf, ac iddo dalu am eu gwasanaethau.
Dywedodd Keith Vaz ei fod wedi cyfeirio’r honiadau at ei gyfreithiwr.
“Er budd” y Pwyllgor Materion Cartref
Yn ei lythyr ymddiswyddiad, dywedodd Keith Vaz ei fod yn rhoi’r gorau iddi “er budd” y Pwyllgor Materion Cartref fel bod y pwyllgor yn gallu parhau a’i “waith pwysig” heb unrhyw “ymyrraeth o gwbl.”
Meddai fod yn “wirioneddol ddrwg ganddo” bod digwyddiadau diweddar wedi ei gwneud hi’n amhosibl iddo barhau fel Cadeirydd.
Tynnodd sylw at y ffaith ei fod wedi bod yn aelod neu’n Gadeirydd un o’r pwyllgorau dethol ers dros hanner ei amser yn y Senedd. Mae wedi bod yn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref ers 2007 ac mae’n AS ers 1987.
Mynnodd ei fod yn “falch” o’r gwaith mae’r pwyllgor wedi ei wneud dros y naw mlynedd diwethaf, gan ychwanegu ei bod hi wedi bod yn “fraint” gwasanaethu fel Cadeirydd.
Dywedodd fod y penderfyniad i sefyll o’r neilltu ar unwaith yn un a wnaeth ar ei ben ei hun ac mai ei “ystyriaeth gyntaf” oedd effaith y “digwyddiadau diweddar ar fy nheulu”.
Mae Keith Vaz wedi argymell y dylai’r AS Ceidwadol Tim Loughton fod yn gadeirydd dros dro ar y pwyllgor nes bod olynydd parhaol yn cael ei benodi.