Bu farw gyrrwr beic modur mewn gwrthdrawiad ger Yr Wyddgrug y bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle ar yr A541, ger cyffordd Mynydd Isa toc wedi 10yb ddydd Llun, 5 Medi.

Digwyddodd y ddamwain rhwng car Ford Fiesta a beic modur ac mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio am fethu prawf cyffuriau. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a’r lle.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ffordd yn parhau i fod ynghau ond bod gyrwyr yn cael eu dargyfeirio ar lonydd eraill.