Baner Awstralia
Mae’n edrych yn debyg y gallai Prydain selio cytundeb fasnach gydag Awstralia ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dyna’r sïon sydd ar led wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, gwrdd ag arweinwyr byd yng nghynhadledd G20 yn China’r wythnos hon.
Yn ogystal, mae Prif Weinidog India Narendra Modi, wedi awgrymu ei fod yn awyddus i barhau â’r bartneriaeth fasnach rhwng yr India a Phrydain gan ystyried cytundebau newydd posib.
Ond, nid pawb oedd mor barod i gofleidio’r cyfleoedd, ac fe wnaeth Prif Weinidog Siapan fynegi pryderon difrifol am ddyfodol eu cwmnïau ym Mhrydain y tu allan i’r UE, gan rybuddio y byddent yn barod i symud pe bai’r amodau’n llithro.
‘Cytundeb cryf ac agored’
Dywedodd Prif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull, y byddai’n awyddus i sicrhau cytundeb “cryf ac agored i gytundeb masnach rydd” gyda Phrydain.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran 10 Downing Street fod y trafodaethau wedi’u cynnal gan ychwanegu: “Wrth inni adael yr UE a thrafod cytundebau masnach newydd rhwng y DU ac Awstralia, dylem edrych ar ba gyfleoedd sydd ar gael i greu cytundebau eang a dwfn.”
Mae Theresa May hefyd wedi cyfarfod â Phrif Weinidog China, Xi Jinping, lle fuon nhw’n trafod dyfodol gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf wedi i Theresa May oedi’r prosiect gwerth £18 biliwn yn gynharach eleni.
Dywedodd Xi Jinping ei fod yn fodlon bod yn “amyneddgar” gyda’r Llywodraeth wrth gyfeirio at Hinkley Point, a’i fod yn “agored i gytundeb masnach dwyochrog” gyda Phrydain, meddai Downing Street.