Wylfa heddiw (Llun Golwg360)
Mae cwmni Horizon wedi ceisio tawelu ofnau pobol leol tros ei gais i ddileu amod iaith wrth adeiladu atomfa newydd yn yr Wylfa.
Mae protest wedi’i threfnu yn erbyn bwriad y cwmni i geisio newid Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn i ddileu amod cynllunio i warchod rhag effaith sylweddol ar y Gymraeg.
Ond, yn ôl y cwmni, dim ond am gyfnod byr y bydd miloedd o weithwyr yn symud i mewn i adeiladu’r orsaf niwclear newydd ac mae croeso i gwmnïau lleol cynnig am beth o’r gwaith ymylol.
Ofn niwed i’r Gymraeg
Ar anterth gwaith adeiladu Wylfa Newydd, mae disgwyl i 10,500 o weithwyr fod ar y safle, ac mae ymgyrchwyr lleol yn poeni y byddai cael cymaint o weithwyr yn symud i’r ardal yn niweidio’r Gymraeg.
Mae’r amod y mae Horizon yn ceisio ei ddileu yn dweud bod Cynghorau’n “gwrthod cynigion a fyddai oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.”
Ymateb Horizon
Dywedodd llefarydd Horizon wrth Golwg360 mewn datganiad mai dim ond am dri mis tua diwedd 2022 y bydd nifer y gweithwyr are i anterth, ac y bydd y “ffigwr hwn yn gostwng yn raddol mor gynnar â dechrau 2023 ymlaen”.
“Ni fydd y gweithlu adeiladu i gyd yn cyrraedd ar yr un pryd, ond yn hytrach bydd y niferoedd yn cynyddu’n raddol dros sawl blwyddyn,” meddai.
“Hyd yn oed yn ystod y cyfnod adeiladu prysuraf, ni fyddant i gyd ar y safle ar yr un pryd oherwydd patrymau gweithio mewn shifft.
“Bydd eraill yn cael eu cyflogi mewn lleoliadau adeiladu oddi ar y safle. Rydym yn agored ac yn dryloyw am nifer y gweithwyr a ddisgwylir ar gyfer gwahanol elfennau’r prosiect – ar y safle ac oddi ar y safle.”
Mae’r cwmni, meddai, yn disgwyl i “ganran fach” o’r gweithwyr symud o fewn pellter teithio i safle Wylfa Newydd “am gyfnodau amrywiol yn ystod y cyfnod adeiladu” cyn symud ymlaen i ddatblygiad arall yn Lloegr.
Wylfa yn ‘dod â buddiannau i’r Gymraeg’
Mae’r cwmni yn mynnu y bydd prosiect Wylfa Newydd yn dod â “buddiannau hirdymor sylweddol i’r Gymraeg,” yn ystod y 60 mlynedd y bydd yr atomfa yn weithredol.
Mae’r prosiect ar y cyfan yn un poblogaidd yn yr ardal, oherwydd addewid y cwmni i greu swyddi lleol, amcangyfrif y cwmni yw y bydd 2,700 o’r swyddi hyn ar gael.
Mae Horizon wedi dweud hefyd ei fod yn croesawu ceisiadau gan gwmnïau lleol am waith adeiladu oddi ar y safle, fel adeiladu’r Ganolfan Ymwelwyr neu’r cyfleusterau Parcio a Theithio.
Mae Horizon ei hun yn dweud ei fod yn cynnal asesiad o effaith y prosiect ar y Gymraeg, gyda chwmni ymchwil Arad Consulting Cyf o Gaerdydd yn ei helpu gyda’r gwaith hwnnw.
- Mae modd gweld dogfennau ymgynghori diweddaraf Horizon ar-lein.