Nicola Sturgeon - pethau wedi newid (Llun: PA)
Fe fydd annibyniaeth yn rhan o “sgwrs wleidyddol fawr” sy’n cael ei lansio heddiw gan Brif Weinidog yr Alban, Nicol Sturgeon.

Fe fydd y datblygiad yn cael ei gyhoeddi heddiw, ddwy flynedd ers y Refferendwm Annibyniaeth yn 2016 ac yn Stirling, y ddinas sy’n enwog am fuddugoliaeth yr Albanwr William Wallace yn erbyn y Saeson yn 1297.

Yn sgil Brexit, fe fyddai’n rhaid i’r drafodaeth gynnwys annibyniaeth, yn ôl Nicola Sturgeon, gan fod yr amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers y bleidlais o 55-45% yn erbyn.

‘Newid sylfaeonol’

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi newis yn sylfaenol,” meddai. “Y ddadl bellach yw a ddylen ni fynd ymlaen, gan warchod ein lle yn genedl Ewropeaidd, neu fynd yn ôl o dan lywodraeth Dorïaidd gyda blaenoriaethau gwahanol iawn.”

Mae ei phlaid, yr SNP, wedi dweud eu bod am weld yr Alban yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd – fe bleidleisiodd y bobol yno o blaid aros yn Refferendwm Ewrop ym mis Mehefin.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn gweithio ar ddeddfwriaeth i ganiatáu cynnal pleidlais annibyniaeth arall yno ac mae Nicola Sturgeon ei hun wedi dweud bod hynny “yn debygol iawn”.

Ond fe fydd y drafodaeth newydd yn ystyried dewisiadau eraill hefyd, meddai, gan ddweud ei body n lansio “sgwrs newydd a dadl newydd ar gyfer yr amseroedd newydd hyn”.

Ymateb pleidiau eraill

Mae Llafur wedi rhybuddio y byddan nhw’n gwrthwynebu refferendwm arall, gan ddweud bod “materion bara menyn” yn bwysicach.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, dim ond esgus yw’r drafodath gan fod Nicola Sturgeon “wedi penderfynu eisoes”.