Llun cyhoeddusrwydd Amazon Prime
Abertawe yw un o sêr annisgwyl drama fawr newydd am fywyd yn y diwydiant ffasiwn ym Mharis ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r  ddrama hanesyddol newydd The Collection yn cael ei dangos am y tro cynta’ erioed heddiw ar sianel Amazon Prime.

Er bod y ddrama wedi’i gosod ym Mharis, fe gafodd y gyfres ei ffilmio yn Abertawe yn benna’, gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyfresi rhyngwladol fel Da Vinci’s Demons hefyd yn cael eu gwneud mewn stiwdios anferth ar gyrion y ddinas.

Y gyfres

Mae’r gyfres newydd o wyth pennod awr o hyd yn cynnwys enwau adnabyddus fel Tom Riley o Da Vinci’s Demons a Richard Coyle o Coupling a Crossbones.

Ymhlith yr enwau eraill y mae Mamie Gumer o The Good Wife a’r actores lwyfan a ffilm Frances de la Tour.

Mae’n cael ei galw’n ddrama deuluol, wedi’i gosod mewn tŷ ffasiwn ym Mharis lle mae dau frawd yng ngyddfau’i gilydd ac mae’n cael ei gweld yn rhan o frwydr sianeli fel Amazon Prime i ddenu cynulleidfaoedd mawr.

Gweinidog yn croesawu

“Mae The Collection yn enghraifft arall o gyfres ddrama uchel ei phroffil yn cael ei ffilmio yng Nghymru,” meddai’r Gweinidog tros yr Economi, Ken Skates.

“Mae prosiectau o’r math hwn yn hwb anferth i’r diwydiant, gan gynnig gwaith a chyfleoedd i fagu sgiliau i griwiau o Gymru gan greu yr un pryd pob math o fanteision economaidd i fusnesau bach mewn nifer o sectorau.”