Llys y Goron Abertawe
Mae llys wedi clywed bod dyn o Aberdaugleddau wedi lladd ei gyn-gariad ar ôl “ymosodiad ffyrnig” arni.

Cafwyd hyd i gorff y fam ifanc, Natasha Bradbury, 27, mewn fflat ar Stryd Fawr Hwlffordd ym mis Chwefror.

Mae ei chyn-gariad, Luke George Jones, 33, yn gwadu ei llofruddio.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Natasha Bradbury wedi cael anafiadau i’w hasennau, gwddf, ymennydd, calon ac iau yn yr ymosodiad.

Pan gafodd Luke Jones ei holi gan yr heddlu, dywedodd bod Natasha Bradbury wedi anafu ei hun ar ôl syrthio yn ei fflat.

‘Cenfigenus’

Mae’r erlynydd Paul Lewis wedi disgrifio Luke Jones fel dyn “cenfigennus a meddiangar” gan ddweud ei fod wedi cynnal “ymosodiad ffyrnig” ar ei gyn-gariad.

Cafodd sgyrsiau WhatsApp rhwng y ddau yn ystod y pedwar diwrnod cyn ei marwolaeth, eu dangos i’r rheithgor.

Mae’n dangos dirywiad yn y berthynas ar ôl i Natasha Bradbury ofyn petai’n gallu aros yn nhŷ ffrind yn hytrach na threulio’r noson gydag ef. Dywedodd Luke Jones wrthi ei fod yn  unig a’i fod yn teimlo bod ei ffrindiau yn bwysicach iddi nag ef, cyn ei chyhuddo o fod mewn perthynas â rhywun arall.

Dywedodd hi wrtho ar 21 Chwefror bod eu perthynas ar ben.

Mae’r achos yn parhau.