Theresa May (Llun: Y Blaid Geidwadol)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi ailadrodd ei neges fod “Brexit yn golygu Brexit” wrth iddi wfftio’r posibilrwydd o gynnal ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Daeth sylwadau May wrth i Gabinet newydd y llywodraeth gyfarfod am y tro cyntaf yn Chequers.
Mae hi wedi herio pob aelod o’r Cabinet i amlinellu’r hyn y mae Brexit yn ei olygu i’w hadrannau unigol.
Ar ddechrau’r cyfarfod, dywedodd May, oedd wedi ymgyrchu o blaid aros yn Ewrop: “Byddwn ni’n edrych ar y camau nesaf y bydd angen i ni eu cymryd, a byddwn ni hefyd yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni bellach wrth i ni greu swyddogaeth newydd i’r DU yn y byd.
“Rhaid i ni barhau i fod yn glir fod ‘Brexit yn golygu Brexit’, ein bod ni am wneud llwyddiant ohoni. Mae hynny’n golygu dim ail refferendwm; dim ymgais i ryw aros yn yr Undeb Ewropeaidd drwy’r drws cefn; ein bod ni’n mynd i gyflwyno hyn.”
Awgrymodd May fod y seiliau eisoes wedi’u gosod ar gyfer gweithredu Cymal 50, fydd yn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ond does dim disgwyl i’r llywodraeth ddechrau ar y gwaith hwnnw tan ddiwedd y flwyddyn, ac mae awgrym na fydd hi’n ceisio sêl bendith y senedd cyn cymryd y cam hwnnw.
Prif asgwrn y gynnen ar hyn o bryd yw mynediad Prydain i’r farchnad sengl, gyda barn aelodau’r Cabinet wedi’i hollti ynghylch dyfodol y cytundeb hwnnw.
Mae May eisoes wedi dweud nad yw hi am i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd effeithio ar berthynas Prydain â gweddill Ewrop.