Nick Bennett (Llun Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru)
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’n hyderus y bydd modd newid y gyfraith i gryfhau ei rymoedd mewn achosion iechyd preifat.

Mae Nick Bennet wedi bod yn pwyso ers tro am y grymoedd newydd ac fe allai gael ei helpu gan achos dyn o Lanelli.

Fe benderfynodd ymchwiliad annibynnol o blaid cwynion gan weddw Peter Lewis yn erbyn Ysbyty Breifat Spire yng Nghaerdydd ond doedd yr Ombwdsman ddim wedi gallu ymchwilo ei hun.

Hawl i ddilyn y claf

Nod Nick Bennett yw cael yr hawl i ddilyn y claf yn hytrach na natur y gwasanaeth – os oes cwynion yn ymwneud â’r sector cyhoeddus a’r sector preifat fe ddylai allu dilyn yr achos yr holl ffordd.

Ar hyn o bryd, fe all ddilyn cwynion am y sector cyhoeddus ond mae’n rhaid eu gollwng pan fydd claf yn symud i’r sector preifat.

Wrth ymateb i’r achos yn Llanelli, fe ddywedodd Nick Bennet wrth Radio Wales ei fod yn obeithiol y bydd modd cael mesur i newid y gyfraith o fewn tri mis.