Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio, wedi i yrrwr gael ei ddyrnu yn ei wyneb gan feiciwr modur mewn digwyddiad yn Llandrillo-yn-Rhos.

Fe ddigwyddodd hyn tua 2.40yp ddydd Sadwrn ar bromenad y dre’ sydd rhwng Llandudno a Bae Colwyn.

Yn ôl datganiad gan yr heddlu, fe gafodd dyn 62 oed ei ddyrnu sawl gwaith trwy ffenest ei gar gan feiciwr modur tra’r oedd yn eistedd yn ei gerbyd Honda Accord.

Roedd y beiciwr modur yn gwisgo helmed oren, dillad lledr du, ac roedd yn reidio beic modur glas a gwyn o’r teip rasio.