Mae gyrrwr meddw a syrthiodd i gysgu mewn ciw o draffig gyda gwn ar ei lin, wedi pledio’n euog i droseddau yn ymwneud ag arfau.

Fe ddeffrodd Nathan Gardier wrth i blismyn symud y gwn otomatig o’i gar yn nwyrain Llundain yr wythnos ddiwetha’.

Fe blediodd y dyn 24 oed yn euog yn Llys Ynadon Thames ddydd Gwener diwetha’, ar ôl cael ei gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant, ynghyd â bod yn feddw ac mewn rheolaeth o’i gar.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Snaresbrook ddydd Mawrth nesa’, Awst 16.