Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lawnsio ymgyrch i rybuddio pobol o beryglon nofio mewn pyllau chwarel yn ystod gwyliau’r ha’ – a phlant yn enwedig.

“Dros y blynyddoedd diwetha’, mae yna rai trasedïau wedi bod, lle mae pobol wedi mynd i drafferthion ar ol mynd i mewn i byllau chwarel,” meddai rhybudd yr Heddlu.

“Mae’r dwr yno’n ofnadwy o oer, ac mae’r peryglon cudd yn niferus iawn. Fe all pethau fynd allan o reolaeth yn sydyn iawn.”

Er y gall pobol gael eu temtio i roi naid i’r dwr pan mae’r tywydd yn boeth, mae pa mor ddyfn ydi’r dwr yn rhai o’r chwareli yn ddychryn. Weithiau, fe all pwll fod hyd at 60m o ddyfnder, ac fe all nofwyr ei chael hi’n anodd iawn i ddod allan oherwydd bod ochrau’r pyllau mor serth.

Mae rhybudd Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn atgoffa’r cyhoedd fod chwareli yn diroedd preifat, ac mae mynd yno i nofio a cherdded yn dresbasu.