Fe ddaeth cannoedd o bobol allan i Sgwar Penderyn ym Merthyr Tudful ddydd Gwener, i gefnogi Jeremy Corbyn yn y ras i arwain y blaid Lafur.

Mae Jeremy Corbyn yn cael ei herio am yr arweinyddiaeth gan Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd, ond fe addawodd i’r dorf ym Merthyr na fyddai “yr un gymuned yng Nghymru yn cael ei hanghofio a’i gadael ar ol” tra byddai ef wrth y llyw.

Fe aeth Corbyn a Smith ben-ben am y tro cynta’ mewn hystings yng Nghaerdydd nos Iau.