Llys Ynadon Westminster
Fe fydd dyn yn ei arddegau sydd wedi’i gyhuddo o ladd ymwelydd o America gyda chyllell ac anafu pump o bobol eraill, yn ymddangos gerbron llys yn ddiweddarach heddiw.
Mae Zakaria Bulhan, 19, wedi’i gyhuddo o lofruddio Darlene Horton, 64, athrawes wedi ymddeol, yn ardal Russell Square, Llundain. Mae hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dwy ddynes a thri dyn arall.
Fe ddaeth Zakaria Bulhan, dinesydd Norwyaidd o dras Somali, i fyw i wledydd Prydain yn 2002, ac mae wedi byw yn Tooting, de Llundain, byth oddi ar hynny. Fe fydd yn ymddangos gerbron Ynadon Westminster heddiw.
Mae Prydeiniwr a gafodd ei drywanu yn ei stumog yn ystod y digwyddiad, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, tra bod Americanwr, dyn o Awstralia a dynes o Awstralia wedi’i hanfon gartre’ o’r ysbyty ddydd Iau wedi iddyn nhw dderbyn triniaeth.
Fe gafodd dyn 18 oed, a oedd ar ymweliad â Llundain o Tel Aviv, ei drywanu yn ei fraich yn ystod yr un digwyddiad yn Russell Square.