Owen Smith Llun: Andrew Matthews/PA Wire
Mae’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Owen Smith wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” bod y blaid yn mynd i hollti.

Mae AS Pontypridd ar daith o gwmpas y DU fel rhan o’i ymgyrch i geisio disodli Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid.

Wrth siarad yn Milton Keynes, dywedodd Owen Smith fod y blaid yn fwy rhanedig ar hyn o bryd nag oedd yn yr 1980au.

“Rwy’n hynod, hynod o bryderus bod y Blaid Lafur am hollti,” ac fe rybuddiodd bod Corbyn yn arwain plaid “sydd ar y dibyn.”

Fe fynnodd nad oedd yn rhan o gynllwyn yn erbyn  Jeremy Corbyn ond dywedodd ei fod wedi “colli ffydd” yng ngallu’r arweinydd i uno’r blaid.

Wrth drafod ei flaenoriaethau petai’n dod yn arweinydd Llafur, dywedodd Owen Smith y byddai’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn cydbwyso’r economi.