Jennifer Hill, Cyfarwyddwr addysg Cyngor Bro Morgannwg, Llun: Cyngor Bro Morgannwg
Mae cyfarwyddwr addysg Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei lladd yn dilyn damwain ar ei beic ar ei gwyliau yn y Pyrenees.

Mae lle i gredu bod Jennifer Hill wedi cwympo mewn amodau niwlog yn ardal Gavarine ger y ffin rhwng Ffrainc a Sbaen ddydd Sul.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi iddi gan ei theulu a’r cyngor.

Dywedodd ei theulu ei bod hi’n fam “ffyddlon” ac yn wraig oedd yn cael ei “thrysori”.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cyngor ei bod yn “hynod ddawnus” ac yn “eithriadol o ymroddgar” i’w gwaith ar ôl ymuno â nhw yn 2012.