Ysbyty Glan Clwyd
Mae heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei ladd mewn damwain ffordd yn Sir y Fflint yn ystod oriau mân bore Sadwrn.

Bu farw Ryan Draper, 27, mewn gwrthdrawiad rhwng fan a dau gerddwr ar ffordd y B5122 ym mhentre’ Caerwys ger cyffordd 34 yr A55.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yno, ond roedd Ryan Draper wedi marw yn y fan a’r lle. Fe gafodd dynes ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd yn diodde’ o anafiadau a all newid ei bywyd, ac mae hi bellach wedi’i symud i ysbyty Stoke.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod gyrrwr 42 oed y fan Vauxhall Combo wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, a’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu’n parhau â’u hymholiadau.