(llun: PA)
Mae miloedd o gefnogwyr annibyniaeth i’r Alban wedi bod yn gorymdeithio drwy ganol Glasgow y prynhawn yma.
Gan chwifio’u baneri Saltire, fe wnaethon nhw ymlwybro’u ffordd yn araf o ben gorllewinol y ddinas i George Square yn ei chanol.
Gyda nhw roedd cannoedd o feicwyr modur – a oedd yn cael eu disgrifio fel ‘Yes Bikers’ – yn rhuo injans eu beiciau o bryd i’w gilydd i ddatgan eu cefnogaeth.
Yn ôl Heddlu’r Alban roedd tua 2,500 i 3,000 o bobl yn George Square yn gwrando ar areithiau.
Un o’r areithwyr oedd Paul Kavanagh, ymgyrchydd a blogiwr blaenllaw.
‘Rhaid bod yn barod’
“Er na fydd refferendwm ar annibyniaeth am beth amser, mae’n bwysig ein bod yn cychwyn ymgyrchu dros annibyniaeth yn ddi-oed oherwydd rhaid inni fod yn barod amdano pan ddaw,” meddai.
“Cafodd y refferendwm diwethaf ar annibyniaeth ei ddisgrifio’n barhaus fel refferendwm Alex Salmond, neu refferendwm yr SNP, ond allwn ni ddim ennill refferendwm annibyniaeth ar sail gwleidyddiaeth plaid.
“Rhaid iddo fod yn fudiad cenedlaethol, a dyna ydym ninnau yma heddiw.
“Mae yma bobl o bob mathau o wahanol bleidiau. Yr hyn a geisiwn ei wneud yn sicrhau y bydd y refferendwm nesaf ar annibyniaeth yn refferendwm i bawb o bobl yr Alban.”