Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae Jeremy Corbyn wedi dewis y safle lle cychwynnodd gwrthryfel Merthyr i lansio ei ymgyrch i ddenu pleidleisiau cefnogwyr Llafur Cymru i’w ail-ethol yn arweinydd.
Yma hefyd, ar Sgwâr Penderyn islaw’r Tŷ Coch yr arferai Keir Hardie, arweinydd cyntaf Llafur, annerch ei etholwyr.
Yno’n ei gefnogi yn y rali am 2.00 ddydd Iau fel fydd Maer Merthyr, Margaret Davies, a Tyrone O’Sullivan, sylfaenydd cwmni Glofa’r Tŵr, a wnaeth ddatgan ei gefnogaeth i Jeremy Corbyn yn gynharach yr wythnos yma.
Wrth ei ddisgrifio, dywedodd Tyrone O’Sullivan:
“Mae’n un o’r dynion mwyaf gonest a deallus imi eu cyfarfod erioed. Yr unig beth sydd arno ei eisiau yw’r hyn sydd orau i bobl – mae’n sosialydd go-iawn.”
Rhybuddio Aelodau Seneddol
Yn y cyfamser, mae Jeremy Corbyn wedi rhybuddio Aelodau Seneddol Llafur yn erbyn gwrthryfela os mai ef fydd yn ennill yr etholiad yn erbyn Owen Smith ym mis Medi.
Roedd yn ymateb i stori yn y Daily Telegraph y gallai ASau ethol eu harweinydd eu hunain a cheisio cipio enw ac asedau’r blaid.
Wrth bwyso arnyn nhw i beidio â meddwl am ddim byd o’r fath, meddai Jeremy Corbyn:
“Cafodd y blaid hon ei sylfaenu gan bobl ddewr, arloeswyr a gyflawnodd lawer, ac mae gan y blaid hon aelodaeth anferthol ac a o dan y Ddeddf Cofrestru Pleidiau ni yw’r Blaid Lafur.
“Does dim dewis arall, does dim plaid arall, ni yw’r Blaid Lafur, a dw i’n falch iawn o fod yn arweinydd y Blaid Lafur.”