Y Lolfa - argraffwyr y cylchgrawn o'r dechrau
Mae’n bosib mai rhifyn eleni o Lol fydd yr ola’ – os na ddaw rhywun i’r bwlch.
Fe fydd nodyn yn y rhifyn sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Llun ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2016 yn dweud bod y cyhoeddwr presennol, Cwmni Drwg, yn rhoi’r gorau iddi.
“Roedden nhw bron ag ystyried rhoi’r gorau iddi eleni,” meddai Garmon Gruffudd o Wasg y Lolfa sydd wedi argraffu’r cylchgrawn dychan a sgandal bob blwyddyn ers y dechrau yn 1965.
‘Dim problem werthiant’
Does dim problem gyda’r gwerthiant, meddai Garmon Gruffudd, ond mae angen pobol newydd i gymryd yr awenau golygyddol.
Fe gafodd Cwmni Drwg ei sefydlu i gyhoeddi Lol – a dim arall – ar ôl i’r cylchgrawn gael trafferthion cyfreithiol yn yr 1990au.
Ers y cyfnod hwnnw, mae’r cylchgrawn wedi cael nifer o olygyddion gwahanol ac wedi newid ei arddull sawl tro.
Cyfryngau cymdeithasol
Un o’r rhesymau am yr anawsterau, yn ôl Garmon Gruffudd, yw fod y cyfryngau cymdeithasol newydd wedi newid pethau.
“Mae’n llawr mwy anodd cael sgŵp bellach,” meddai. “Mae pethau ar y We yn digwydd ynghynt. Mae pethau’n cael eu cyhoeddi ar unwaith ar Facebook a Twitter.”
Fe fydd y nodyn yn y cylchgrawn eleni’n gofyn i bobol gysyllu os oes ganddyn nhw ddiddordeb naill ai i gydio yn Lol neu i gyhoeddi cylchgrawn newydd.