Mae’r cartwynydd Mumph sy’n byw yn ardal yr Eisteddfod yn dweud bod y Brifwyl wedi colli cyfle gyda’r cyngerdd agoriadol neithiwr.
Fe fyddai pobol leol wedi cael llond bol neu wedi diffodd y set deledu, meddai’r arlunydd sydd yn byw ers rhai blynyddoedd yn Y Fenni.
Fe alwodd am ailfeddwl y syniad er mwyn creu digwyddiad a fyddai’n codi awydd ar bobol i fynd i Eisteddfod Genedlaethol 2016.
Angen dathlu
Roedd angen cyngerdd i ddathlu’r ardal, i ddathlu llwyddiant pobol leol yn cynnal yr Eisteddfod ac i godi hwyl, meddai Mumph – Mal Humphreys.
Roedd yn beirniadu’r caneuon cynta’ ar y rhaglen am fod yn ara’, gan honni mai dim ond unwaith neu ddwywaith trwy’r cyngerdd y cafodd pobol eu cyffroi.
“Oedd y cyngerdd neithiwr yn ddigalon,” meddai. “Oedd o’n iawn fel cyngerdd ond nid cyngerdd i agor gŵyl fawr. Doedd o ddim yn ddathliad.
“Tasa yna bobol leol, sydd ddim yn gwybod am yr eisteddfod, wedi digwydd edrych ar y cyngerdd ar y teledu, fasan nhw wedi troi o off ar ôl 20 munud.