Rhan o un o ffilmiau Richard Bevan (llun gan yr Eisteddfod)
Ffilmiau 16mm lle mae’r taflunydd ei hun yn rhan ganolog o’r gwaith sydd wedi cipio un o brif wobrau Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016.
Penderfynodd y detholwyr, Rachel Conroy, Helen Sear ac Anthony Shapland yn unfrydol i ddyfarnu’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i’r artist amlgyfrwng Richard Bevan. Mae hefyd yn derbyn y wobr ariannol lawn o £5,000, gan Ymddiriedolaeth Gelfyddyd Brycheiniog.
Meddai Helen Sear: “Drwy awgrym cynnil ac ambell i ddolennu delweddau, daw byd du a gwyn dieithr i’r amlwg – amser yn dal ei hun mewn gofod ffisegol, rhywbeth i’ch hoelio dan gyfaredd o’i flaen, yn hytrach na gwylio naratif yn datblygu. Mewn byd lle gall pawb saethu a golygu ei ffilm ei hun ar ddyfeisiau cludadwy, mae wedi gwneud y penderfyniad i weithio gyda ffilm 16mm a chynnwys y taflunydd ffilmiau yn rhan ganolog i’r gwaith pan gaiff ei arddangos.
“Nid oes angen i ni bob amser ddeall er mwyn cael profiad, a daeth gwaith Richard Bevan â mi i fan lle roeddwn yn meddwl beth allai fod yn fy wynebu. Dyma a’i gwnaeth yn enillydd amlwg i mi, y ffaith i’r gwaith, yn dawel a heb dynnu sylw, fy hudo i’w fyd.
Ychwanegodd Anthony Shapland: “Roedd Richard Bevan yn ddewis ar unwaith i mi – roedd y ffilmiau cain a syml hyn, a oedd yn ymylu ar fod yn fyfyrdodau di-naratif, yn rhagorol. Maent yn fedrus ac mor agos i gerflunio a barddoniaeth ag ydynt i ddelwedd symudol.
Anghonfensiynol
Meddai Richard Bevan: “Mae gan y ffilmiau ffurfiau cymharol anghonfensiynol – rhai sy’n ddwy awr o hyd ar lŵp o fewn sinema, neu mor fyr â 13 eiliad sydd ond yn gweithio mewn oriel. Mae gan bob ffilm fan cychwyn gwahanol, er enghraifft mae yna dyndra rhwng y ddelwedd lonydd a’r symudol, mae’r ffilmiau bron yn agosach at ffotograffau na ffilmiau traddodiadol. Does ganddyn nhw ddim traciau sain, ond yn rhedeg i gyfeiliant y seiniau mecanyddol y taflunydd ffilm.”
Nid yw’r artist yn ddieithr i’r Brifwyl. Ym Maldwyn 2003 dyfarnwyd Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol iddo ac yng Nghasnewydd y flwyddyn ganlynol ymgymerodd â phreswyliad ac arddangosfa ‘Adnewyddu’.
Mae’r artist sy’n hanu o Faesteg ac wedi ymgartrefu yn Llundain erbyn hyn. Er mae e newydd ddychwelyd o Japan ar ôl cynnal arddangosfa yn Tokyo yn ddiweddar.