Tyrau llestri Lisa Krigel (llun gan yr Eisteddfod)
Tyrau o lestri sy’n dod oddi wrth ei gilydd ar gyfer eu defnyddio o ddydd i ddydd yw gwaith buddugol enillydd y Fedal Aur am Gelf a Dylunio yn Eisteddfod Sir Fynwy.

Roedd y dewiswyr Rachel Conroy, Helen Sear ac Anthony Shapland yn unfrydol yn eu penderfyniad i ddyfarnu’r fedal i’r artist cerameg Lisa Krigel. Mae hi hefyd yn derbyn y wobr ariannol lawn o £5,000, a roddir gan Sefydliad James Pantyfedwen.

Mae Rachel Conroy yn disgrifio gwaith Lisa fel “tyrau crochenwaith pensaernïol sy’n creu tirlun trefol ar ben bwrdd, ac wrth eu tynnu oddi wrth ei gilydd, ddarn wrth ddarn, caiff eu dibenion ymarferol eu datgelu’n araf.”

Daw Lisa o Efrog Newydd yn wreiddiol ac mae’n cofio ymweld â thyrau’n cael eu hadeiladu o dan oruchwyliaeth ei thad a oedd yn bensaer. Fe ddaeth i Gymru yn 1999 a sefydlu stiwdio Firworks yng Nghaerdydd.