Rhan o waith buddugol Gwenllian Llwyd (llun gan yr Eisteddfod)

Cynulleidfaoedd gwan mewn capeli y mae ei thad yn pregethu ynddyn nhw a ysbrydolodd waith enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016.

Enillodd Gwenllian Llwyd, myfyriwr celf o Dalgarreg, ger Llandysul, wobr o £1,500 am fideo sy’n cyfuno gwead o ddarluniau a chlipiau ffilm o ddirywiad a lleihad y capeli yn ei hardal i gyfleu colled mewn diwylliant.

“Un o fy mhrif ddylanwadau i’r prosiect oedd mynychu cyrddau fy nhad,” meddai Gwenllian Llwyd. “Gan ei fod yn weinidog, mi fues yn rhai o’i gyrddau â sylwi mai dim ond dau neu dri person oedd yn mynychu’r gwasanaethau … O ganlyniad cefais syndod ac roeddwn am dynnu sylw’r cyhoedd i’r newid yma – y newid i’r hyn a arferai fod yn normal wrth i bobl fynychu’r gwasanaethau yn y capel bob dydd Sul a chymdeithasu gyda’i gilydd. Mae hyn yn araf ddiflannu.”

Mae ei thad, Cen Llwyd, yn weinidog Undodaidd ar chwech o gapeli yn ardal y Smotyn Du yng Ngheredigion.

Yn ogystal â’i ddilyn o amgylch ei wasanaethau er mwyn ffilmio a thynnu lluniau bu Gwenllian Llwyd yn archwilio’r adeiladau, a chanolbwyntio ar y darnau dirywiedig sydd ynddynt. Bu hefyd yn edrych ar yr aelodau sy’n dod i’r capeli, o ran ei gwedd a’u presenoldeb.

Cyfleu colled

“Fy mhrif nod pan oeddwn i’n gwneud y ffilm yma,” meddai, “oedd i bwysleisio a chyfleu colled sy’n amlwg yn niwylliant crefyddol, sydd wedi arwain at ddirywiad yn niwylliant Cymreig yn gyffredinol a’r iaith Gymraeg yn benodol.”

Yn ôl un o’r detholwyr Anthony Shapland, roedd gallu technegol a chymhlethdod ffilm Gwenllian Llwyd yn arbennig. “Roedd ei ffilm,” meddai, “yn gosod golygfeydd ac elfennau acwstig yn haenau a dangosodd y cysylltiad clir rhyngddi hi fel gwneuthurwr ffilm a’r bobl a’r lleoedd y mae’n eu dogfennu, artist sydd â llygad gwneuthurwr rhaglen ddogfen.”

Mae modd gweld y ffilm, ‘Dirywiad a dadfeiliad’ yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni. Rhoddwyd y wobr eleni gan gwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd.